Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

edrych arnynt yn cwympo draws eu gilydd yn eu hymgais i ddïanc. Chwardde rhai o'r edrychwyr yn iach am eu pene, ond cilwgu'n ofnadwy wnai'r lleill.

Erbyn ini gyredd y man y cychwynasom o hono, yr o'em ein dau yn chwys dyferol, ac yn chw'thu fel dau ddromedari.