gadw 'nghydbwysedd, yn eu blaen yr elent hwy fel pe baent wedi eu geni mewn mẁd, ac mor gartrefol ynddo a chŵn yr heolydd. Erbyn pob hwyr, yr o'wn fel un o'r "German Band" a welir weithie'n cerdded o fan i fan, mor glunhercyn a phe bydde geny' gorn dan bob bys.
Ond os am wel'd, a sylwi, a chraffu, a marcio'n fanwl, yr unig ffordd am dani yw ar draed. Mi wnes rai o'm pererindode mwya' dyddorol yn y modd hyn. Os na fyddwn wedi blino gormod ar ol bod yn crwydro'r dydd, yr oedd myn'd am dro gyda'r hwyr, wedi i'r haul fachlud, yn talu am bob anhwyldeb. Ar draed, rhwng cinio a gwely—cinio gwŷr mawr, cofiwch!—y gweles ochr seimlyd dinas Cairo; ac os oedd rhyw gyment o gariad ynof tuag at bechod yn flaenorol, yr wyf yn meddwl iddo ddiflanu i gyd y noson hono. Mi adroddaf i chwi'r helynt.
Yr o'em yn bedwar gyda'n gilydd—pedwar Cymro. Yr oedd y bechgyn yn f'aros tra'r o'wn i'n mwynhau pryd ola'r dydd, ac yr oedd golwg ddoniol arnynt. Capie cochion ar eu pene, a ffyn yn eu dwylo, eu lwyne wedi eu gwregysu, a'u lampe wedi — na, gan gofio, nid oedd lampe ganddynt: ond parodd eu hymddangosiad i mi feddwl yn gry' am blant Israel yn cychwyn o'r wlad y sangwn ei daear y funud hono. Gan mai prin y mae'n ddïogel i Sais fentro allan yno heb ffon wedi'r dydd, chwaithach wedi'r nos, cymeres ine un brâff ei gwala; a chan ei bod yn fantes i gydffurfio â