Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

wed'yn; a phan y daethom atynt, mae'n rhaid cyfadde fod pethe'n edrych dipyn yn ddifrifol yno. Edryche Roberts ei hun can wyllted a phe b'ase wedi cael ei hun yn y lleuad. Clebre â hwynt mewn amryw ieithoedd, a digri' oedd clywed ambell i air Cymraeg yn cael ei seinio mewn lle ac amgylchiade mor anghartrefol. Ond 'doedd dim yn tycio. Os dealla'r gwehilion hyn fod arnoch eu hofn, hwy sydd ben; ond os trowch arnynt heb fenyg ar eich dwylo, hen gywardied o'r fath waela' ydynt, a pharotach ydynt i'ch llyfu na'ch llarpio. Gwelodd Roberts ni'n d'od, a dechreuodd ymwroli: cododd ei ffon, a dygodd hi i wrthd'rawiad â, chymale duon dau neu dri o honynt—gwnaethom nine'r un peth â'r lleill; wedi cael Roberts o'u gafaelion, bygythiasom hwy eilweth, a ehawsom yr hyfrydwch o'u gwel'd yn slincio'i ffwrdd fel corgwn, a'u cynffone rhwng eu coese. Eto, tybiasom taw doetnineb ynom oedd cefnu ar y diriogeth hono gynted y gallem.

Ar y ffordd, troisom i fewn i ffau Ffawd, i wel'd yr hap-chwareuwyr. Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd yn colli'r cwbl a roe ar y bwrdd, a'r hwn oedd wedi colli llawer cyn i ni fyn'd yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o'i ben—yr oedd mor welw a'r galchen, ac eto, rhede'r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei dalcen, y naill ar ol y llall—ei