Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

veil dwyllo dyn! Yn siwr i ch'i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha ryfedd fod y dych'mygol mor berffeth y'mysg y Dwyreinwyr, pan mae'r llyged gloewen hyny sy' fel y wenlloer yn 'sbïo arnoch o'r tu ol i'r cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!

Garech ch'i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y Pyramidie? Dïau i'r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y'nghysgod y gorchudd; ac fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a'r gelyn, dechreuodd danio'n union. Nis gwyddwn beth a dd'wede, ond barnwn wrth ei llyged a'i hoslef ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i ystyrieth, 'doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob dwsin, a dyfale'r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw, amcanodd Huws dd'we'yd wrthi beth oedd ein neges, taw d'od i wel'd y tŷ y daethom, ac nid ei gwel'd hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a ystyrie 'fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei law.

Mae'n ddrwg genyf orfod d'we'yd yn y fan yma i'r hen dafotreg gamddeall geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd ei Arabeg cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn arian yn rhy fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y