canlyniade tra b'wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe b'ai wedi ymdrawsffurfio'n felin wynt. 'Doedd dim posib' cael gair i fewn ar ei ochr. Wrth wel'd Huws y'methu, treieis ine hi'n Gymraeg; ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi'n fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a haner dwsin o fenywod. 'Roedd yn hawdd gwel'd fod rhein yn deall y cwbl, a rhagor, a chlebrent fel gwydde â'u gilydd.
"Gwell ini gym'ryd y goes," meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei gythruddo'n fawr am na b'ase'r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi gyfeiries tua'r drws gyda'r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd modd. Ond hyd y'nod wedi ini osod y Sphinx rhyngom â'r lle, yr oedd ei chlôch yn ein clustie'n barhaus. Ar ol cyredd Cairo, adroddasom yr helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd atom ein dau, ac ebe fe'n ddifrifol:
"Wel, 'roedd yn dda i ch'i nad oedd gŵr y ddynes gartre'."
"Sut f'ase pethe wed'yn?" gofynwn yn gyffrous.
"O," ebe ynte, a'i ddifrifoldeb yn chwyddo, "caech fedd yn y tywod am ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu'n y tywod dan amgylchiade neillduol yn y ffasiwn ffordd yma