Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

bwy' byw. Ali oedd bïa'r asynod, ond Mahomet oedd bïa Ali, gorff ac ened.

Yr o'em wedi trefnu i fyn'd i ymwel'd â'r "bazaars," ac un o'r prif eglwysi Mahometanedd, a bore' cyfan i gael ei gyflwyno i'r gwaith.

"Dewiswch eich anifel," ebe Jones yn garedig. Yr o'wn, wedi cymeryd stoc o'r ddau'n barod, ac wedi astudio'u pwyntie, da a drwg, yn bur dda, dybygwn i.

"O'r gore," meddwn, "mi gym'ra' i at y brawd yma;" a chyfeiries at yr un a ymddangose i mi y diniweitiaf o'r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn cilio—nes ei bod yn beryg' i Gristion sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd ei frawd yn peri imi feddwl am Issachar, yr hwn y d'wede'i dad am dano ei fod fel "asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn." Yr unig symudiad a wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu wybedyn i 'sbïo bôn ei glust. Nid o'wn wedi bod mor agos a hyny i asyn pedwartroed er pan o'wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.

Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce's f'argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y fan. Yn lle ei fod yn Biwritan hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr penboeth, a