Pan y gelles anturio edrych heibio'i ddwy-glust, gwelwn Jones yn y pellder, a'i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn union ei fod e'n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw'i brentisieth er's blynydde. O, fel y gofidiwn na b'aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge's y cyfle! Tra'r o'wn yn ffigyrol fwyta f'ewinedd fel hyn, rhoes Ali bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes hyny, a che's fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri' llyfrithen. Mi ddealles fod gogles ar Ned yn y gym'dogeth hono, a bu'r wybodeth o fantes i mi wed'yn.
Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy'r dyrfa o ddynion ac anifeilied a cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d'od i helbul ragor na siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y Dwyren—camelod a dromedaried yn f'amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg, ac Arabied cilwgus yn lle Cymry rhadlon. Ga'nad beth, 'mhen hir a hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o'r "bazaars," a roedd yn rhaid gadel y dynion a'r asynod o'r tu allan. Nid wy'n cofio perthyn i ba wlad neu genedl yr oedd y gynta'r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel 'r eiddo' fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion, hirion o'ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y gallech weithio'ch ffordd y'mlaen gyda'r gradd lleia' o lwyddiant. Yr oedd yn gryn gamp i ni ein