Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/135

Gwirwyd y dudalen hon

Aaron ei frawd, a dweyd y lleia'; a pharod o'wn i'w phrynu ar unrhyw bris.

"Bekamde?" ebe Jones eilweth, mor swrth a phlismon.

"Eshreim," ebe'r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd Jones ar ei draws yn ddiseremoni—

"Mwsh aws," ebe fe, a ffwrdd ag e' dan chwibanu. Es ar ei ol, a gofynes iddo pa'm na phrynase'r ffon.

"Am ei fod yn gofyn punt am werth coron." Cauodd ben y mwdwl ar unweth. Y'mhen chwarter awr'ro'em yn pasio heibio stondin y Groegwr drachefn, a dyna lle'r oedd a'r ffon yn ei law o hyd.

"Bekamde?" ebe Jones y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol a miliwnêr.

"Arba," ebe ynte'n union; a che's y ffon am bedwar swllt! Hen eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad Groeg, cystal a gwŷr gwlad Canaan unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie Paul yn tori bob ochr pan dd'wedodd nad oedd "gwahanieth rhwng Iuddew a Groegwr."

Aethom drwy'r maelfeydd Tyrcedd, Persiedd, Indiedd, a Melitedd oll yn eu tro, a'u rhyfeddode'n amlhau ac ymehangu bob cam o'r ffordd. Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn adwaen rhai o'r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce's fwrw golwg dros rai o'r dirgelion oddifewn. Dynion caredig o'ent oll cy'd ag y safech gyda hwy i fargeinio;