Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/141

Gwirwyd y dudalen hon

y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o'r un enwogrwydd. Addolir hi gan yr hen Aifftied, ac addolir pob crëadur sy'n byw yn ei dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o'r trigolion yn ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd'we'yd ambell i wir sy' ore' i'w gelu, mi dd'wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole'r lloer.

Bum y'nes ati na'i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. Huws oedd hefo mi'r diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw brydnawn, ac aethom iddo'n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr neu ragor at drugaredd dau o'r pechaduried dua'u crwyn a mileinia'u llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae'n amheus genyf a weles i ryw lawer o'r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade'r badwyr; ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel'd fy nghydymeth, yr hwn oedd wedi 'mollwng iddi cystal ag un Twrc. Yr unig beth wn I i sicrwydd am y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i'r wlad am gryn getyn. Mae genyf gôf niwliog i Huws bwyntio â'i fys at gruglwyth o hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am "Moses Bach." Ce's allan wed'yn fod traddodiad yn d'we'yd taw dyna'r 'smotyn y daeth