Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

gostrel yn yr afon ydoedd: ond ni adewes i Huws wel'd fy mod yn ei adnabod. Edrychwn mor hurt arno a phe nad o'wn wedi ei wel'd erioed; a llyncodd fy ffrind yr abwyd.

"Mae o'n gwerthu dïod neis iawn," ebe fe; "gym'rwch ch'i lasied?"

"Be' di henw hi?" gofynes, cyn imi gau pen y mwdwl yn gyflawn. Clywes ef y'mwmian rhwng ei ddanedd mewn atebiad, a cheisie f'argyhoeddi i taw d'we'yd yr enw Arabeg ar y ddïod yr oedd. Cydsynies i gymeryd glasied ar yr amod iddo ynte gymeryd un.

"O'r gore'," ebe fe; ond gwyddwn nad oedd yn blasu hyny. Wedi cael y stwff i'm llaw, edryches arno—yr oedd mor dew â bwdran; arogles ef—yr oedd fel physig dâ. Yna, mi edryches ar Huws.

"Yfwch ef i fyny," ebe fe.

"Fel mater o foesgarwch," ebwn ine, "chwi ddyle yfed iechyd da i mi'n gynta'." Mynes ei wel'd yn cymeryd dracht o hono; yna, heb aros i wel'd ei wep, mi defles y corn a'i gynwys i'r ddaear, ac ymeth a mi nerth fy nhraed i'r cyfeiriad a gymerem yn flaenorol, yn cael fy nilyn gan leferydd y dwfr-werthwr a chamre breision fy nghydymeth—yr hwn ynte oedd wedi cael ei werthu hefyd. Profodd hegle hirion Huws yn gynt na'm postion byrion i, a buom ein dau'n chwerthin ar ganol y 'stryd nes gwneud i'r teilwried a eisteddent yn goes-groes yn ymyl y dryse dynu eu pibelle allan oddirhwng eu