y mae'n ddigon isel i chwi fedru edrych i lawr iddo. Wedi i'ch llyged ymgydnabyddu â'r t'w'llwch, chwi welwch ddyfroedd yr afon yn y gwaelod pell, a phren hir yn codi 'fyny'n syth o'r gwaelod, a marcie arno bob hyn-a-hyn. Cyrhaedda'r pren hyd at ene'r tŵr. Yn ol y marcie y mesurir uchder y dw'r. Am y rhan fwya' o'r flwyddyn, ni ŵyr am y codiad lleia'; ond fel mae amser y gorlifiade'n agosâu, ymofynir â'r Nilometer yn fynych, ac os ceir arwyddion myn'd tuag i fyny yn y dw'r, clywir sŵn llawenydd a gwaith trwy'r holl wlad. Tebyg taw cynllun cyffelyb oedd ganddynt yn amser y Pharöed. Mae pobpeth yn yr Aifft naill ai yn "hen bowdwr" neu'n "newydd fflam!" Sicrhaodd Huws i mi fod hwn er dyddie Pharo Neco! Hwyrach hyny, ond rhedeg at y bocs halen wnes i.
Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/149
Gwirwyd y dudalen hon