Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/166

Gwirwyd y dudalen hon

gan ryfeddu'r nerth a'r medr oedd wedi bod wrth y gwaifch. Argyhoeddid chwi bob cam a ro'ech fod a fyne caethion rywbryd â'r lle. Yr oedd y slabie anferth yn ffitio i'w gilydd fel morteisie, ac yr oedd un o honynt fel talcen tỳ cymedrol. Pe d'wedse rhywun wrthyf gydag awdurdod taw gwaith yr Hebrëwyr oedd y cwbl, ni f'aswn yn synu dim.

Pwy na chlywodd sôn am y Sphinx? Pen, gwyneb, ac ysgwydde dyn wedi eu tori allan o'r graig, a marcie tywydd canrifoedd arnynt. D'wedir ei fod yn hynach na'r Pyramid hyna'. Pwy sy'n gwybod? Wyneba i'r anialwch, a gwylia byrth toriad gwawr. Mae'n ara' falurio drwy'r oese, ond erys digon o hono ar ol i oroesi oese lawer eto. Mor ddystaw y mae! ac mor oer a stoicedd! Nid yw pelydre haul y cyhydedd, na gerwin gorwyntoedd yr anialwch wedi gwneud iddo syflyd ei emrynt gyment ag unweth drwy'r hirfeth genedlaethe, ond pery i ddisgwyl, disgwyl mor ddyfal heddyw ag erioed. Am ba beth, 'sgwn i? Mae hen draddodiad am y Sphinx ei fod yn gofyn cwestiwn i bawb ele heibio, ac yn lladd pawb a fethent ei ateb. Ond i ryw ddyn dd'od heibio ar ei dro, a'i ateb ar ei gyfer; ac i'r Sphinx dori ei galon mewn canlyniad, a throi'n gareg yn y fan. Y cwestiwn oedd hwn: Beth oedd y crëadur a gerdde yn y bore' ar bedwar, yn y prydnawn ar ddau, ac yn yr hwyr ar dri? Ai atebiad oedd Dyn—ei fod pan yn blentyn y'more'i oes yn