a chael y tir i dori rhysedd y gwynt, llonyddodd pethe, a chawsom hamdden i gymeryd ein hanadl. Ond och fi! ni chwenychwn ail-argraffiad o'r peder-awr-ar-hugen diwedda'.
Y'mhen tri neu bedwar diwrnod, daeth un arall ar ein traws; ac er na pharodd c'yd a'r llall, yr oedd ffyrniced hob mymryn. O Gulfor Lyons y daeth hon, a'r gwynt a'r gwlaw oeraf a garwaf yn ei chôl. Deue i'n herbyn gyda rhuthr, a chawsom ddwyawr gyffrous dros ben. Berwe'r môr yn ffrochwyllt; tarawe'r gwynt ar ochr y llestr fel cyflegre, a neidie'r dyfroedd i'r dec fel môr-ladron. Yr oedd yr hen long ar ei gogwydd ar hyd yr amser, ac yr oedd hyd y'nod y 'stiward yn gwneud cryn 'stumie wrth geisio cerdded yn gywir. Ond lliniaru wnaeth mor sydyn ag y dechreuodd, fel ambell gyffroad y'Nghymru; a cha'dd Bismarc a mine rwyddineb i gerdded yn fwy parchus, heb ein bod yn cael ein drwgdybio o fod wedi meddwi.
Daeth y trydydd argraffiad allan wedi ini gyredd y Sianel—Sianel Pryden. Dim ond gwlaw a niwl—gwlaw a niwl oedd y drefn o'r amser y daethom i fewn i'r amser yr aethom allan. Gwaith peryg' yw mordwyo'r sianel hon ar dywydd fel yma. Mae mwy o ofn y niwl ar y morwyr na'r dymestl waetha' pan fo'r awyrgylch yn glir. Mae'n anodd gwel'd y goleuade, ar làn nac ar long, nes y byddwch yn eu hymyl. Ychydig all'swn fod ar y dec, ac ychydig welswn oddiyno, pe mentrwn. Pasiem o fewn dim ymron i'r làn heb ei wel'd. Ce's gip ar Ynys Wyth fel drychioleth ar ein haswy. Dim ond un noson ar ei hyd dreuliasom yn y Sianel, a noson ofnadwy oedd. Yr oedd yr elfene fel pe baent wedi eu gollwng yn rhydd gyda'u gilydd i'n llyncu'n fyw ar ddiwedd y daith. Disgyne'r