Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.

BYWYD BOB DYDD.

 BUM bythefnos ar y dw'r cyn cyredd y làn arall, ac yr oedd pethe wedi myn'd dipyn yn unffurf cyn i'r pythefnos dd'od i ben, hyd y'nod i mi, na wydde ddim am fywyd o'r fath cyn hyny. Yr un amgylchoedd, a'r un gwynebe, a bron yr un bwyd o ddiwrnod i ddiwrnod, nes yr o'wn wedi cael f'addfedu er's meityn i newid fy myd, er gwell neu er gwaeth. Yn wir, nid oedd genyf y gronyn lleia' o gydymdeimlad â'r ymadrodd cyfleus hwnw: "Gwell yw y drwg a wyddoch na'r drwg na wyddoch." Yr o'wn yn berffeth barod i gofleidio'r ola', os gallwn drwy hyny gael gwared o'r blaena'.

Wrth geisio desgrifio un diwrnod, mi fydda'n desgrifio pob diwrnod, a chewch ch'ithe farnu a wyf y'mhell o'm lle wrth alw'r bywyd yn unffurf.

Dihunwn yn y bore' 'beitu saith o'r gloch, a'r gŵr oedd gyfrifol am hyny oedd y 'stiward, yr hwn ddeue a chwpaned o goffi twym' i mi, y'nghyda "biscïen." Cryn gamp oedd myn'd drwy'r seremoni hon mewn pryd erbyn brecwast: