nesa'n cyfranogi o rai o'r elfene dywededig, y'nghyd a chwpaned o dê oedd yn peri i mi ame' ai nid coffi ydoedd. Hwn oedd y pryd cyfreithlon ola'; ond mi fydde aelode'r Cyfrin-gyngor yn cael sgwlc cyn y wyliedwrieth naw o'r nos, a mine yn eu cysgod. Yr wyf yn meddwl imi wneud y sylw yna o'r blaen, yr hyn a ddengys nad dibwys yw yn fy ngolwg i.
Tra ar y pen hwn, cystal imi sôn am y modd yr ymdarawem wrth y bwrdd ar dywydd garw.
Wedi ini fyn'd i fewn i'r Bau Mawr, ac i hwnw, 'nol ei arfer, ein siglo'n ddiseremoni, nes gwneud i'm cydbwysedd i a sefydlogrwydd gwahanol bethe dd'od yn faterion i alw sylw atynt—gwelwn y 'stiward un diwrnod, pan oedd yn tynu at amser cinio, yn sicrhau rhyw grëadur cam a chrwca wrth y bwrdd, ac y'myn'd ymaith. Nis gwyddwn beth i wneud o hono. Ar ol taith igam-ogam, es ato, ac ni bum yn hir cyn d'od i'r penderfyniad taw nid peth i'w fwyta ydoedd. Gwir na wyddwn am gyraeddiade'r cogydd y ffordd yna, ond teimlwn yn bur hyderus na fu'r creadur hwn erioed mewn na chrochan, na sospan, na phadell ffrïo. Gwneid ef i fyny o beder 'styllen, yn rhedeg gyda hyd y bwrdd, a dwy bob pen yn rhedeg gyda'i lêd. Yr oedd tri o wagleoedd rhwng y 'styllod, a'r canol oedd y lleta'. Wrth edrych arno'n ddyfal, tybiwn fod y wawr yn tori, a disgwyliwn y 'stiward yn ol a'r datguddiad