PENOD VI.
❋
AR Y DAITH.
AE'N bryd imi bellach gymeryd stoc o'r byd sy'n gorwedd o'r tu allan i'r llong, rhag i chwi fyn'd yn sal o glefyd y môr drwy gael eich cyfyngu cy'd rhwng y plancie.
Yr oedd y nos y cychwynes allan o ddoc y Bari yn "dangos gwybodeth" ar ei gore', ac yn "traethu ymadrodd" cystal a'r dydd am ei ddanedd. Fe wincie goleuade Gwlad yr Ha' draw arnom fel pe ba'em y'myn'd allan ar ryw ddireidi, a nhwthe'n y gyfrinach. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod goleuade glane Morganwg yn cenfigenu wrth eu chwiorydd yr ochr arall i'r Sianel, ac am hòni cyment o wybodeth a'r Saeson, a d'we'yd y lleia'. 'Roedd ambell i oleuad yn ymddangos i mi fel pe bai'n cael difyrwch diniwed am ein pen; un funud edryche arnom fel plentyn drwg yn ei wely—y funud nesa' fe fydde a'i ben dan y dillad—i fyny drachefn heb ei ddisgwyl—i fyny ac i lawr, i fyny ae i lawr, mor brofoclyd a dim wolsoch erioed. Gelwir y math yma'n oleuad trofäol; ac erbyn sylwi, y mae i'w gael ar ei