ganfed ar hyd y glane y'mhobman. Nid oedd y lleni wedi eu tynu dros ffenestri'r ffurfafen chwaith, ac yr oedd cysgod engyl i'w wel'd yn pasio heibio iddynt ol a gwrthol. Dyna oedd f'esboniad i pan yn blentyn ar ansefydlogrwydd y sêr, ac ni elles ymddihatru oddiwrtho byth. Adlewyrche'r dw'r o gwmpas sêr y nefoedd a sêr y glane, a theimlwn yn ddigon hunanol i feddwl fod yr holl gre'digeth wedi d'od allan i ddymuno mordeth dda i mi. Cure calon yr hen long mor rheoledd a phe bai'n canu unod mewn cystadleueth, a gwylltie'r hwylysydd weithie mewn cyfeiliant iddi. Rhodde'r môr ffordd yn foneddigedd i'r llestr basio, cusane'r mân done ei hochre geirwon wrth fyn'd heibio, ac ymestyne ei llwybr yn ol i fynwes y nos fel llwybr arian.
Dacw oleuade Ilfracombe yn pefrio'n y pellder; ac wele gilfach Westward Ho! lle bum unweth yn chwilio am unigedd ac yn temtio seibiant, heb ddim ond gole' gwyliedydd y glane i dd'we'yd lle mae. Wedi murmur "Nos da" wrth ynys Lundy, trymhaodd fy llyged, ac yn hwyrfrydig es i chwilio am fy ngorweddle. Nid heb gryn gyflafareddiad y llwyddes i'w sicrhau at fy ngwasaneth; ac wedi myn'd iddo, yr oedd pobpeth fel wedi ymdynghedu i'm cadw'n effro. Bum amser hir yn ysbïo drwy'r ffenest' gron oedd yn f'ymyl ar oror Cernyw y'myn'd ac yn d'od. Bum wed'yn yn gwrando ar ddirgryniade'r llestr, neidiade'r