hwylysydd yn union odditanaf, ergydion y peiriant, a llaib y dw'r yn erbyn yr ochre. Y peth nesa' wy'n gofio'n groew ydyw'r stiward yn d'od i fewn a'i gwpaned coffi. Ond noson drallodus ydoedd; a phe b'asech yn fy lle, gwn na f'asech damed gwell, os cystal, er eich bod yn awr yn barod i chwerthin am fy mhen.
Pan ddeffröes y bore' cynta', yr oedd pen pella' tir Pryden ar fin myn'd o'r golwg. Delies i syllu arno hyd y gall'swn, a phan y colles ef, daeth ochened drom i fyny o rywle heb fy nghaniatâd. Tybiwn imi glywed eco iddi o'r tu ol, a mi drois yn sydyn; ond ni weles neb ond yr ail beirianydd yn chwilmanta gerllaw. Ni wyddwn am ei dricie'r pryd hwnw; ond wedi i mi dd'od i'w adnabod yn well, a meddwl am y peth, drwg dybiwn ef o fod yn gwneud difyrwch o honof, a taw efe oedd yr eco. Erbyn hyn, 'doedd dim yn y golwg ond môr ac awyr, ac ambell i long arall yn pasio. Yr o'em bellach yn nesu at y Bê Bisce, yr hwn oedd wedi bod i mi'n fwgan y dydd, ac yn hunlle'r nos oddiar pan y penderfynes fyn'd y ffordd hono. Clywswn gyment o sôn am dano, ei fôd yn grëadur mor ofnadwy, nes fod myn'd drwyddo bron bod yn gyfystyr a myn'd trwy lỳn cysgod ange'.
Ond diwrnod ardderchog oedd hwn, gan'ad sut y bydde'n y Bau. 'Does dim eisie' croesi'r bont cyn d'od ati. "Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun." Mae'r haul yn gry', a'r gwynt yn isel. Mae'r môr fel gwydr, a'r gwylanod yn ein