oedd haner dwsin o ddynion ifanc gwamal ynddo; a phan ddaethant o fewn haner milldir i dir, ymsaethodd tri o fade hirion, meinion, yn llawn o ddynion, allan o un o'r cilfache, cymerasant hwy yn garcharorion heb fawr trafferth, ac yr o'ent oll wedi diflanu cyn i neb ar y llong wybod fod dim wedi cymeryd lle. A'r darn prudda' o'r hanes yw, na chlyw'd siw na miw am y trueinied byth wed'yn! Nid oes lle i ame' na chawsant eu cludo i un o farchnadoedd y Sahara, a'u gwerthu'n gaethion i'r canolbarth.
Mae'r tywydd mor ddiserch a'r tir, heb fawr haul, a'r gwynt yn eillio mwy nag a f'asech yn feddwl mewn lle fel hyn. Mi deimles fwy o wres lawer gwaith yn yr Hen Wlad y'mis Chwefror nag a deimlaf heddyw y' Môr y Canoldir. Mae'r dyfroedd yn dawel ryfeddol, a'r llestr yn cadw heb siglo ond ychydig. Dim ond un llong a weles drwy'r dydd—nyni sy'n teyrnasu. Ddoe 'roedd y dw'r yn loew iawn; heddyw y mae'n dywyll iawn. Y rheswm o hyny yw fod y dyfroedd yn adlewyrchu gwyneb y wybren. Awyr lâs, ddigymyle oedd awyr ddoe—glas a gloew oedd y dyfroedd; awyr o blwm yw awyr heddyw—cyfranoga'r dyfroedd o'r un lliw yn union. Onid yw hyn y'meddu ar wirionedd cyfatebol mewn cylchoedd moesol a chrefyddol? Mi sylwes fod y llestr yn cynyrchu ei thone a'i hawel ei hun wrth fyn'd rhagddi, ac mi ofynes i mi fy hun—Onid yw dyn yn