gwneud peth tebyg wrth fyn'd drwy'r byd, beth bynag fo'i gymeriad? Prydferth yw gwel'd y gwylanod yn gorphwys ar y tone. Mae'r Hwn ddysgodd Petr i gerdded ar y môr gynt yn dysgu ei saint eto i droi tone dig môr bywyd i fod o wasaneth iddynt, i'w helpu i gyredd pen y daith. Dyna ddigon o bendrymu; rhaid ymneillduo bellach. Dacw ole' Algiers yn dawnsio yn y pellder draw, ac es i gysgu wrth edrych arno drwy'r ffenest' gron.
DYDD GWENER, MAWRTH 1AF.—Diwrnod braf, dïolch am dano. Mwy o haul, a llai o wynt. Yn wir, 'does dim gwynt o werth son am dano heddyw, yn unig awelen o grë'digeth y llong ei hun. Pasiwyd Algiers, fel Gibraltar, yn y nos. Yr unig at-daliad a geisiaf yw eu pasio yn y dydd wrth ddychwelyd. Gorore'r cyfandir du yn y golwg o hyd. Y mynydde'n uwch, ac eira ar goryne y rhai ucha'. Cip ar fynydde'r Atlas, sy'n cadw gwynt deifiol yr anialwch rhag gwneud Ewrob yn bentewyn. 'Does dim yn ddeniadol mor belled yn y darn hwn o dir Affrig—hwyrach y gwella wrth fyn'd y'mlaen. Rho'es y cadben ei 'spïeinddrych mawr yn fy llaw, a pharodd imi edrych i gyfeiriad y gogledd. Gwnes hyny, ac ar ol cael y creadur i ganolfan prïodol, a fy hunan i fedru ei ddal heb grynu, gwelwn fwg yn dyrchu'n dew draw'n y pellder. Wedi deall taw mynydd Etna ynSicili ydoedd, 'r o'wn yn falch dros ben, er na welwn ond ei fwg. Nid o'em lawer yn fyr o gan' milldir