yw Malta. Ceir perllane a gwinllane'n dryfrith drosti. Mae'r llwybre cochion sy'n croesi'r caëe yn peri imi redeg yn ol i Bontargothi. Y brif dre' yw Valetta. Mi weles long y'myn'd i mewn i'r porthladd. Mae gene hwnw'n gul, a chyflegre fel rhes o ddanedd ar ei fin. Ce's olwg braf ar y dre', am ei bod ar safle uchel. Dacw'r barracks a phebyll y milwyr, a dacw'r milwyr eu hunen y'myn'd drwy eu hymarferiade. Dacw ddwy neu dair o eglwysi'n dyrchu eu pigdyre i gyfeiriad y nefoedd. Ust! mae'r awel yn cario sain clyche un o honynt dros y tone i glustie'r alltud unig nas gŵyr beth a wna, ai chwerthin ai wylo. Dacw'r castell coch ei furie, ac adfel hen fynachlog. Ha! a dacw'r 'strydoedd llithrig cheimion, a phobl yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddynt fel gwybed ar gwarel ffenest'. Mae hen air yn d'we'yd na fedr un Iuddew fyw y'Malta nac Aberdeen; a'r rheswm am hyny yw, fod y Melitied a'r Ysgotied yn gorfaelu cribddeilieth, fel nad oes dim ar ol i'r Iuddew. Dangoswyd i mi fau bychan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i'r ynys, a elwir Bau Sant Paul, am y tybir taw yno y daeth efe a'r achubedigion erill i dir. P'run bynag a oedd hyny'n wir neu beidio, yr oedd yn wir i mi ar y pryd; a daliwn i syllu ar y fan nes i'r ynys fyn'd o'r golwg. Mi weles heno'r haul-fachludiad gogoneddusaf a weles erioed. Nid af i geisio'i ddesgrifio, am ei fod y'mhell y tu hwnt i'm darfelydd egwan i. Fel
Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/62
Gwirwyd y dudalen hon