Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/71

Gwirwyd y dudalen hon

dynion fu'n gaethion ynddi bum' mil o flynydde'n ol. A dyma'r wlad, mi greda', a ddaw eto'n ail i Eden mewn prydferthwch, i ddyffryn yr Iorddonen mewn ffrwythlonrwydd, i Bryden Fawr mewn gwareiddiad, ac i Walia Wen mewn crefyddolder, y'mhen dwy neu dair o genedlaethe.

Yr o'wn wedi myn'd i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha' o bob breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi'n ol at sylwedde bywyd:—

"Come away, sir, or they will think you mad!"

A phan edryches, dyna lle'r oedd tẁr o fadwyr cymysgliw o'm cwmpas yn syllu arnaf fel pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge's ragor na dau ar fy nhraed cyn dychwelyd; ond ni fu brys mawr arnaf wed'yn i freuddwydio ar ganol y 'stryd.