Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/72

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XI.

MEWN DALFA.

 NI raid i chwi fod fawr o amser y'ngwlad yr Aifft cyn y cewch eich taro gan amldra ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid yn unig yn y trefi a'r dinasoedd, ond hefyd yn y pentrefi a'r wlad oddiamgylch. D'wedir nad yw nifer trigolion Alecsandria dros dri chan' mil; ond wrth gerdded dros ei 'strydoedd, hawdd fydde madde' i chwi pe haerech fod yno filiwn. Mae culni'r 'strydoedd yn peri fod y dre'n ymddangos yn llawnach nag ydyw mewn gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb gyfri' y rhan hono lle mae Ewropied yn byw ac yn dwyn y'mlaen eu trafnidieth, chwi ellwch boeri o un ochr i'r llall yn y 'strydoedd brodorol, a hyny heb aflonyddu ond y nesa' peth i ddim ar gyhyre eich gwyneb. Y canlyniad yw, fod y dynion yn 'sgwyddo'u gilydd fel mewn ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen y'nghanol y dyrfa ryfedda' heb fedru symud cam i'r dde' na'r aswy, y'mlaen nac yn ol, mor ddigymorth ag aderyn mewn rhwyd. Chwi aethoch i'r sefyllfa boenus yna'n ddiarwybod