anialwch. Rhwng y ddau eithafion yna—y pen a'r traed-yr oedd ganddynt wisg o'r un doriad ag eiddo heddgeidwed Morganwg, ond fod y botwne'n fwy. Maent i'w cael ar ben pob heol, os nad yn amlach; a chwi dde'wch ar eu traws fynyched nes eich cyfiawnhau i ame' ai tybed nad gwylio'ch symudiade chwi oedd neges fawr eu bywyd. Ar y cynta', wrth feddwl am hyn, tueddwn i fyn'd dipyn yn bryderus; ond mi dde's yn gyfarwydd â'r gwŷr yn fuan. Yn wir, mi dde's i delere siarad â dau neu dri o honynt a gerddent yn ymyl y doc. Yr o'wn wedi pigo ychydig froddege Arabaeg i fyny'r diwrnode cynta', a defnyddiwn bob cyfleusdra a gawn i'w hawyru. Pan y'myn'd o'r llong i'r dre' yn y bore', cyfarchwn hwy â'r frawddeg, "Narak said," wrth basio, ystyr yr hyn yw, "Dydd da;" a phan y dychwelwn yn yr hwyr, dywedwn, "Iltak said," sef "Nos da:" a chyfarchent fi'n ol bob tro'n siriolach nag y gwneir yn aml y'Nghymru.
Eu pechod parod yw bod yn or-swyddogol. a garw pan gânt gyfle. Rhyngoch chwi a mine, hwyrach taw dyna yw pechod parod eu brodyr sy'n byw y'nes atom na'r Aifft. Yn ddystaw bach, onid dyna bechod parod pawb sy' mewn swyddogaeth? Gan nad beth am hyny, parodd rhein dipyn o flinder i mi ar ddau achlysur yn eu hawydd angerddol i fawrhau eu swydd. I ddirwyn y benod i fyny'n brydlon a blasus, mi dd'wedaf wrthych pysut.