Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XII.

TREM ODDIAR Y TROTHWY.

SON yr o'wn am amldra'r trigolion pan ddaeth yr heddgeidwed i fewn i'r fusnes—y byddai hyny'n un o'r pethe cynta' a'ch tarawe.

Peth arall a'ch tarawe mor debyg a dim fydde amrywieth y gwynebe a'r gwisgoedd. Nid y bechgyn sy'n peryglu'r heddwch wrth geisio'i gadw yw yr unig rai sy'n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy'n gyffredin iawn. Yr enw arnynt yw "tarbwshus," a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud wrth orchymyn, yn y siop lle'r es i'w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi'r nos yn Cairo, a thybiwn fy mod yn gwneud Arab go lew. Mae'n siwr gen i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae'r "turban" bron mor gyffredin a'r llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos yn y gwaith. Mae gan y Mahometanied selog ystyr i'r gwahanol liwie: dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i'r blaenor Mahomet. Gwisgir