nosol hyn, mi ge's beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.
Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein hunen rywbryd gyda'r nos, rhwng dau ole', yn bur bell o'r fan lle'r oedd y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a'r dwylo'n 'stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a'r traed yn poethi—yr o'em wedi myn'd i hercian fel dau drempyn er's meityn, ac yn hiraethu am y caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin, daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a'r llall yr un pryd; a'r canlyniad oedd, ini alw'n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a'n cymerodd o'r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom raff i'n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed chwarter awr. Tybiaf ini dd'od 'nol i'n hamgylchoedd agosa' tua'r un adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y gym'dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus y gyriedydd a eistedde o'n blaen.
"Nid dyma'r ffordd i'r doc!" ebe'r cadben.
"Nid hwn yw'r dreifer a logasom!" ebwn ine.
Yr oedd y cadben y'nes i'w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a