Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

dieithr, a merwinid ein clustie gan gri begeried. "Bwrw tân" atom y bydde ambell i lygad wrth basio; ac er galw ar Jehu, ni chymere arno'n clywed, ond gyru'n ynfyd a wnai. Y'mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr oedd yn rhaid ei chroesi neu droi'n ol. Er fod y clwydi'n gauad, nid oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd Jehu i agor y clwydi o'r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma chwibaniad! a dyma'r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d'od allan o'i focs, yn cydio y'mhen y crëadur o law'r crëadur arall, ac yn gollwng allan y diluw mwya' 'sgubol o fras hyotledd. "Tra yr oedd hwn yn llefaru," dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle'r oedd dynion a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi. Heb estyn dim at y 'stori, yr oedd yno gryn haner cant o'r tafode grymusa', yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon a gwynion, fflachiade mellt y'nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar ganol y rheilie—dim posib' myn'd y'mlaen, dim siawns i fyn'd yn ol—trên yn ymyl a'i beiriant yn 'sgrechen ei anadl allan—a'r Pandemonium mwya' cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i'w chofio ydoedd. Deallem eu bod oll y'mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith gwydde Cymru amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy