Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/89

Gwirwyd y dudalen hon

Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid i'r tocynwr dreisio'i ffordd drwy'r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor bell ag y gall'swn wel'd, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i'r lle; a mi'r o'wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod y tram y'myn'd drwy'r Grand Square, a llygadwn am hwnw'n bryderus. G'yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy 'sgathru gan y murie. Mi benderfynes lynu wrtho b'le bynag yr ae, deled a ddele i'm cyfarfod. Cofiwn i hyny dalu'r ffordd imi'n ddiweddar. Mi ofynes i'r swyddog fy ngosod i lawr yn ymyl y Gabara, neu'r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei ddanedd wnae'r swyddog pan dd'wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad o'wn yn ei seinio'n briodol. O'r diwedd, dyma'r 'sgwâr, a dyma ben ar fy mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y Gabara; ac ar ol ugen munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y bregeth.

Yr ochr nesa' i'r ddinas o'r tollborth sy'n arwen o'r docie mae tua dwsin o dafarne, isel y'mhob ystyr, y rhai sy'n byw'n bena' ar arian a dillade'r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn, a denant Jac i fewn;