chulion y 'strydoedd, a chan mor ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath Babel erioed ag sy' rhwng y gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y ffordd, ar y naill law, a'r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben, ar y llaw arall.
Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd 'stoc o'r amgylchoedd, deuech yn fuan i fod o'r farn taw un o'r cyfrynge gore' i wel'd bywyd cyffredin y bobl yw yr arabeyah. Yr ydych yn eu canol, ac eto'n ddidoledig oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d'we'yd y lleia', yn ofynol cyn y llwyddwch i gyredd y 'stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi fethu. Y tro cynta'r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am 'storm ar y môr! Yr oedd yn felus o'i chymharu â chwarter awr mewn arabeyah! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.
Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a'r cerbydwr; mae'n ddrwg genyf orfod d'we'yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd edrych arno ef, a'i gyd-grë'duried yn dwyn i'm cof bob 'stori a glywes am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i'w bedoli. P'run ai sefyll ai gorwedd oedd y crëadur, mae'n anodd d'we'yd gan mor dene ydoedd.
"Ai dyma lle ma' cyffyle'n ca'l u gneud?" gofyne'r gŵr cyflym i'r gôf.