oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i'r ochre, ac i'w cael ar bob llaw i'r llwybre. Mae'n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen at y lle'n unig wnai Moses,—mae'n amheus genyf a wele'r cadben a mine ole' dydd drachefn. Wesul tipyn, daethom i 'sgwâr, o'r hwn yr oedd yr holl lwybre'n rhedeg, ac i'r hwn y dychwelent. Ar ganol y 'sgwâr yr oedd careg anferth o dywod wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu 'sgriblo gan bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol chwilio am damed glân, tores ine f'enw y'mhlith y llu, er afrwydded oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen, dyhewn am dd'od o'r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw'r Nefoedd. Pan ddaethom allan, yr oe'm yn chw'su fel tanwyr, yn chw'thu fel cŵn ar wres mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi meddwi. Ac wedi meddwi yr o'em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.
Ffwrdd a ni wed'yn i gyfeiriad yr afon, a buom yn olwyno gyda'i glane am hir ffordd. Yr ochr arall iddi yr oedd canoedd o fwdgabane, a dynion yn ymolchi ynddi ac yn yfed o honi. Yr ochr hyn iddi yr oedd gerddi gorwych, pyrth henafol yn arwen i mewn i balase teg, ac hyd y'nod i hen furddyne adfeiliedig.