anadlu 'mron, a bu gorfod i mi siarad tipyn o Gymraeg â hwy cyn iddynt dewi, er mawr ddifyrwch y cadben. Cafodd amgenach dylanwad arnynt hwy nag a gafodd ar hen sipsiwnen wrth draed y Pyramidie, am yr hon y cewch glwed eto. Bu'r hen iaith o fantes anrhaethol i mi ragor na siwrne. Yr oedd y cnafon yn deall acen a goslef y Sais a'r Ffrancwr; ond nid oedd ganddynt syniad am dafodieth Cwm Rhondda, a gosodwn y diffoddydd arnynt mewn byr amser.
Aethom allan i'r wlad drachefn, o dan gysgod y palmwydd am filldiroedd, nes d'od i Ramle', un o faesdrefi Alecsandria. Dyma lle mae'r bendefigeth yn byw, a braf yw eu byd. Erbyn hyn yr oedd yn dechre' nosi, a throisom yn ein hole. Pan gyrhaeddasom y llong, yr o'em ein dau mor newynog a bleiddied ar amser eira, ac mor flinedig a phlant sy'n talu 'mlaen am eu gwely wrth chware' ar hyd y dydd.
A d'wedwch chwi os na fum yn crwydro y diwrnod hwnw.