Tudalen:Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil).pdf/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae ei fynwes byth yn dyner,
A'i gymdeithas byth yn gref:
Nis gall dyfroedd angau llym
Ddiffodd ei angerddol rym.

Ym mha le y ceir, er chwilio,
Neb yn caru fel Efe?
Ple mae'r cyfaill, er ein hachub,
A ro'i fywyd yn ein lle?
Nid oes debyg iddo Ef,
Drwy y ddaear faith a'r nef.

Pan fo pawb yn cefnu arnom
Yn y dyffryn tywyll, du—
Pan fo pob daearol undeb
Yn ymddatod o bob tu,
Saif E'n ffyddlon y pryd hyn,
Ac a'n dwg yn iach drwy'r glyn.

A phan ymddangoso eilwaith,
Yng ngogoniant pur ei Dad,
Gyda'i holl angylion sanctaidd,
Mewn anrhydedd a mawrhâd,
Fe geir gweld mai'r un fydd Ef,
Er mynd heibio'r byd a'r nef.


CORONI IESU YN BEN.[1]

DYRCHAFER enw Iesu cu,
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn ben.

Angylion glân sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'r orsedd wen;
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn ben.


  1. Cyfieithiad o All Hail the Power of Jesus' Name gan Edward Perronet