Parch. Robert Roberts, Carneddi. Ymdrechodd lawer gyda'r Gymanfa hon ymhob modd, ond syrthio i'r llawr a wnaeth. Mae yn debyg fod ei symud o Gastell Caernarfon wedi bod o niwed, a'r costau mawr, a diwrnodau gwlawog, fel ag iddi droi yn golled, a suddo i ddyled; ac mewn dyled y bu farw, a dygwyd rhan o'r baich hwnw gan Mr. Roberts ei hun. Ar yr un pryd, gwnaeth y Gymanfa lawer o les tra y parhâodd.
Cychwynwyd symudiad cyffelyb hefyd yn Ngorllewin Meirionydd, a chynnaliwyd y Gymanfa gyntaf yn Nghastell Harlech, Mehefin 25ain, 1868. Arweinydd y corau undebol, Ieuan Gwyllt. Y mae y Gymanfa hon yn parhâu yn fyw a blodeuog a llwyddiannus, ac wedi cynnal cylchwyl yn y castell bob blwyddyn er y dechreuad. Yn y blynyddoedd diweddaf, aed drwy y Messiah a Judas Maccabeus. Bu Ieuan Gwyllt yn arweinydd hefyd yn 1869, ac elai heibio i'r corau ymlaen llaw i roddi cyfarwyddiadau mewn rehearsals. Y mae y canu yn y Gymanfa hon wedi gwella yn ddirfawr, ac y mae yn ddiammeu ei bod wedi gwneyd dirfawr les. Y mae Cymanfäoedd y Gogledd yn ddyledus i Ieuan Gwyllt am eu bodolaeth, ac edrychid ato ef ganddynt fel noddwr, cyfaill a chyfarwyddwr.
8. Cymanfaoedd Canu Cynnulleidfäol.
Dywedai y Parch. D. Saunders, yn ei anerchiad yn Nghaeathraw, mai efe oedd "tad" y Cymanfäoedd Canu Cynnulleidfäol. Wedi darllen y sylwadau canlynol yn y Rhifyn I. o'r Cerddor Cymreig, 1861, buom o'r braidd yn ammheu dywediad Mr. Saunders:—" Cerddoriaeth y Cysegr.—Ymddengys fod ein gwlad wedi ei dihuno i fesur helaeth ar y pwnc dyddorol a thra phwysig hwn. Y mae ein heglwysi, perthynol i'r gwahanol enwadau, yn dechreu ystyried eu dyledswydd, ac yn ymdeimlo â'r rhwymedigaeth sydd arnynt i dalu mwy o sylw i'r mater hwn, ac i fod yn fwy gofalus a llafurus yn ei gylch. Yr