ydoedd y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog), a chynnorthwyid ef gan Mr. John Jones, yr Argraffydd, yn hyny— hwn ydoedd bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygodd ysgrifau galluog y Golygydd, ac yn enwedig ei ysgrifau fel yr "Hen Ffarmwr," y papyr i sylw gryn lawer; er hyny, o herwydd nad oedd iddo gylchrediad digon helaeth, helynt ddigon blin fu arno o dro i dro; ond cadwodd yn fyw drwy y cwbl, ac yr oedd yn gadael argraff ar y wlad. Yn y flwyddyn 1848 daeth i ddwylaw Mr. Lloyd. Yr oedd y duty y pryd hwnw yn anfantais fawr iddo, a symudwyd yr argraffdŷ i Isle of Man, er mwyn ceisio osgoi hyny; ond buan y deallodd y Llywodraeth hyny, a daethpwyd yn ol i Liverpool. Yn adeg y symudiad bu am fis heb ei gyhoeddi. Fel Golygydd cynnorthwyol yr oedd Ieuan Gwyllt yn myned i Liverpool, ond cafodd fod yr holl waith yn disgyn ar ei ysgwyddau. Ond ymwrolodd, a phenderfynodd wneyd pob ymdrech i lanw y lle pwysig hyd eithaf ei allu, ac ymdaflodd â'i holl ysbryd i'r gwaith. Da genym ddyweyd ei fod, trwy drafferth fawr, wedi casglu ynghyd yr holl ysgrifau a ysgrifenwyd ganddo i'r Amserau tra yn Olygydd iddo, ac wedi ysgrifenu ei enw wrthynt, a'u bod yn awr yn meddiant Mrs. Roberts; ond nid ydym yn hollol sicr ei fod wedi gallu cael y cyfan, yn enwedig y rhai cyntaf oll; oblegid bu raid iddo advertisio cryn lawer, a chwilio yn ddyfal i gael gafael ar y copiau. Gwelwn ei fod ef ei hun yn dyweyd yn ei nodiad yn y Bibl Teuluaidd, iddo ysgrifenu yr erthygl arweiniol gyntaf i'r Amserau Rhagfyr 10, 1852;[1] ond y peth cyntaf y medrasom gael gafael arno ydoedd "Adolygiad ar yr Anthemau Buddugol yn Eisteddfod Bethesda, Ddydd Iau Dyrchafael 1852—Bethesda, R. Jones," gydag enw "Ieuan Gwyllt, Rhagfyr 15, 1852," wedi ei ysgrifenu dano. Yn yr Amserau Rhagfyr 22ain, cawn erthygl arwein-
- ↑ "1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit Yr Amserau. Wrote the first Leading Article for that paper Dec. 10th."