i fod yn ddefnyddiol. Pa faint bynag o ddaioni a gyflawnodd, ac o ddylanwad a ennillodd, gallai ddyweyd yn ddibetrus, 'A swm mawr (o lafur) y cefais y rhagorfraint hon.' Nid arbedai ei hun; yn wir, y mae lle cryf i dybied. pe buasai wedi llafurio yn llai 'caled y gallasai fyw yn hwy. A mynai gael pob peth yn drwyadl. Nid ymfoddlonai ar ddim byd hannerog, ac yr oedd cael hyny yn costio llafur caled iddo. Gwelsom ambell un yn meddu galluoedd mor ddysglaer, yn yr ysgol neu yr athrofa, fel na byddai raid iddo ond wrth ychydig o amser i fyned drwy ei wersi. Y mae un felly dan lawer o demtasiwn i ddiogi hanner ei amser, ac i ddibynu llawer ar ei gyflymder a'i allu yn ystod yr hanner arall. Ond, fel rheol, nid ydyw un felly yn drwyadl, ond i raddau mwy neu lai yn arwynebol. Ond y mae yr un sydd wedi ymladd am bob modfedd o dir, â'i gleddyf ac â'i fwa, yn fwy sicr o hono, ac wedi ei feddiannu yn fwy llwyr. Nis gall dyn fod yn drwyadl ond i'r graddau y bydd ynddo ymroddiad. Nid yw y galluoedd uchaf heb hyn ond arwynebol; ond y mae dyn o alluoedd lled gyffredin, gydag ymroddiad mawr, yn gallu gwneyd llawer. galluoedd naturiol sydd mewn dyn ydyw y pwysau, a'r ymroddiad sydd ynddo yw y nerth—y rhai gyda'u gilydd sydd yn gwneyd y momentum—yr argraff y mae dyn yn ei wneyd ar ei oes. Yr oedd yn Ieuan Gwyllt alluoedd cryfion, fel y cawn sylwi eto, ond yr oedd ynddo hefyd ymroddiad anghyffredin i wneyd y defnydd goreu o'r galluoedd a roddwyd iddo. Y mae y gwaith dirfawr a gyflawnodd, a'r dylanwad a ennillodd, gymaint yn ddyledus i'w ymroddiad a'i alluoedd. Gwyddai pa fodd i wneyd defnydd o'r mynydau, ac felly gwnaeth oes fer yn oes fawr. Y "gwas da a ffyddlawn" ydoedd efe yn dyblu ei dalent trwy farchnata yn ddyfal â hi. Yr oedd yr ymroddiad hwn yn ddeublyg: ar un llaw, ymroddai hyd
Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/165
Gwirwyd y dudalen hon