Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/180

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

OL EI DDYLANWAD AR GYMRU.

Y MAE yn llawn ddigon buan eto, hefyd, i ni allu barnu yn gyflawn pa faint o argraff Ieuan Gwyllt ar ei oes sydd yn debyg o fod yn arosol, ac i ba raddau yr estyn dylanwad ei lafur i'r oesoedd dyfodol. Eto, yr ydym yn teimlo tuedd gref i geisio olrhain mor bell ag y gallwn, yn y bennod olaf hon, yr arwyddion sydd i'w cael nad yw y llafur mawr a gyflawnwyd ganddo ef ddim yn debyg o ddiflanu yn ei effeithiau. Ac i'n meddwl ni, y mae y mater hwn yn meddu llawn mwy o ddyddordeb na dim o'n hymchwiliad mewn cysylltiad âg ef; oblegid er fod ein hedmygedd yn ddirfawr o hono cyn i ni ddechreu ymaflyd yn y gwaith o olrhain hanes ei fywyd a sylwi ar ei nodweddion, y mae yr edmygedd hwnw wedi cynnyddu yn anghyffredin, po fwyaf y daethom i wybod am dano, ac y myfyriasom arno; ac yn awr yr hyn sydd yn llenwi ein mynwes â boddhâd, ydyw yr ystyriaeth fod y fath lafur gwerthfawr yn debyg o ddwyn ffrwyth lawer, ïe, llawer mwy yn y dyfodol nag a welwyd eto. Cyfodwyd cofgolofn brydferth ar ei fedd, a theimlem na bu neb erioed yn fwy teilwng o honi; ac y mae genym seiliau cryfion dros gredu, er nad yw yr ysgoloriaeth wedi cael ei chymeryd i fyny fel y buasid yn dysgwyl, fod ei goffadwriaeth yn anwyl gan filoedd lawer o'n cydwladwyr; eto, mwy na'r cwbl genym ni, yw fod y Llyfr Tonau Cynnulleidfaol a'r ddau Gerddor, y Llyfr Hymnau, a Swn y Jubili, yn aros yn gofgolofnau llawer rhagorach, na phe gallesid cael y marmor prydferthaf, wedi