Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/185

Gwirwyd y dudalen hon

yr holl ysgogiad i un dyn; yr oedd eraill wedi llafurio, ac yr oedd eu llafur wedi bod yn fendithiol i barotoi y ffordd, ac nid yw yn briodol anghofio hyny; ond pan y daeth "cyflawnder yr amser," ynddo ef y caed "yr awr a'r dyn" yn cydgyfarfod, a bydd enwau Ieuan Gwyllt a'r flwyddyn 1859 wedi eu marcio mewn llythyrenau cochion yn hanes cerddoriaeth Cymru.

Mae gwahaniaeth rhwng enwogion ac enwogion yn yr argraff a adawant ar eu hol. Mae ambell i ddyn enwog yn gwneyd llawer o ddaioni yn ei ddydd, ond wedi iddo farw y mae ei ddylanwad yn darfod. Mae un arall, nid yn unig yn gwneyd daioni yn ei oes, ond yn rhoddi cychwyniad i ddylanwad fydd yn ymledu ac yn cynnyddu wrth fyned ymlaen, ac y teimlir oddiwrtho am oesoedd. Mae y cyntaf fel cawod o wlaw yn ireiddio y ddaear am dymmor, ond y mae tywyniad yr haul ar ei hol yn peri i'w hargraff fyned o'r golwg; a'r diweddaf fel y ffynnon risialaidd sydd yn taflu allan ddwfr pur fydd yn ymwasgaru ar hyd y dyffryn, ac yn gwasgaru bendith ar bob llaw. Un o'r dosbarth diweddaf oedd Ieuan Gwyllt, ac nid oes debyg y bydd i ddylanwad ei ymdrechion ddarfod, ond ymledu a chynnyddu, a chynnyrchu yr un ysbryd yn meddyliau llawer eraill, nes treiglo ymlaen felly am oesoedd, fel y gellir dyweyd fod yr ysbryd oedd ynddo ef eto yn aros, yn aros yn fyw yn Nghymru, ac yn debyg o fyned yn gryfach gryfach.

Hwyrach y gallwn nodi rhyw ychydig o argraffiadau y mae wedi eu gadael yn ddwfn ar Gerddoriaeth Cymru, ac sydd hefyd yn debyg o barhâu. Un ydyw y dylai pob cyfansoddiad cerddorol fod yn gelfyddydol berffaith. Credai y dylai pob cyfansoddwr cerddorol fod yn deall yr egwyddorion yn drylwyr, ac ni allai oddef brychau a meflau. Rhaid cael y cyfansoddiad yn gywir, onidê nis gellid peidio ei gondemnio ganddo ef, ac erbyn hyn tybiwn y rhaid i