office; llawer ymgom a gaem ar bolitics, crefydd, canu, &c., ac yna ymwahanem bob un at ei waith. Ysgrifenem lawer, lawer iawn, iawn am flynyddau, yn enwedig ar adeg y rhyfel yn y Crimea. Yr oeddem ill dau yn condemnio y rhyfel hwnw, ond yr oedd efe yn fwy pwyllog a chymedrol na mi, a minnau yn or-eithafol."[1] A chawn y desgrifiad yn fwy dyddorol eto ganddo ef ei hunan,[2]—"Y mae creadur eiddil, llwyd, pengrych, gyda dau bâr o lygaid, a llen o bapyr o'i flaen, ysgrifell ddur yn ei law, ac ychydig o dân yn cogran yn yr aelwyd, yn ysgrifenu rhyw stwff â'i holl egni; ac felly y mae yn treulio ei oes, y naill ddydd ar ol y llall, heb wneyd dim ond darllen ac ysgrifenu o'r boreu hyd yr hwyr, a hyny, yn wir, nes y byddo yn hwyr iawn yn y cyffredin. Y mae yn treulio llawer o'i ddyddiau felly heb weled na dyn na dynes ond yr ychydig sydd yn y tŷ, a llifeiriant a wêl ambell waith trwy y ffenestr ar yr heol. Oddigerth fod concert neu rehearsal yn y Philharmonic Hall, rhywun hynod yn darlithio mewn rhyw gwr o'r dref, neu rywbeth yn nghapel Rose Place, ni bydd nemawr byth yn myned allan, oddigerth iddo fyned am bump neu chwe' milldir i'r wlad—y pancake country yma, chwedl Jones Kilsby—bore ddydd Mercher, neu filldir neu ddwy yn hwyr y dydd, yn y cyfnos, er rhoddi cyfleusdra i'r awel i drefnu ychydig ar ei ymenydd penblethedig. (Ond O! y fath wahaniaeth sydd rhwng y wlad hon a gwlad Cymru! Yma nid oes na bryn uchelgrib, na chraig ysgythrog, na nant risialaidd, na meddylddrych, na dim. Y cwbl yn un gwastadedd.) Y mae yn cael myned a dyfod y ffordd y gwelo yn dda, ar y pryd y gwelo yn ddymunol, heb neb yn gofalu yn ei gylch; ac heb ond prin ddwsin yn nhref Liverpool yn gwybod fod unrhyw hogyn a eilw ei hun yn Ieuan
Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/61
Gwirwyd y dudalen hon