edmygu. Yn wir, cafodd laweroedd o wrthwynebiad oddiwrth rai nad oeddent deilwng i ddattod carai ei esgidiau. Er mai wedi myned oddiyma y cyrhaeddodd boblogrwydd, yma, yn yr hen ystafell dlodaidd yr olwg arni yn St. Anne Street—mewn unigedd hen—lancyddol, y gosododd y sylfaen."[1]
"1858, Oct. 21. Removed to Aberdare to edit 'Y Gwladgarwr.'"
Cawn ychydig o hanes yr achos o'r symudiad hwn gan y Parch. D. Saunders:[2]—"Tybiwyd yno (yn Aberdâr) yn dymunol i sefydlu newyddiadur o'r enw Gwladgarwr, ac amlygwyd dymuniad, os oedd hyny yn bosibl, i sicrhâu gwasanaeth eu cyfaill Mr. Roberts fel golygydd y cyfryw newyddiadur. Llwyddwyd i'w gael, a bu yn byw yn Aberdâr am dair neu bedair blynedd, yn ystod yr hwn amser y bu yn gymydog iddo ef (Mr. Saunders) trwy gyfanneddu yn nhŷ diacon a chyfaill goreu iddo, sydd erbyn hyn wedi myned ato i'r wlad hono lle cenir 'Cân Moses a chân yr Oen.' Pan ddaeth i Aberdâr, nid oedd ganddo ond tocyn aelodaeth fel aelod cyffredin o'r Cyfundeb Methodistaidd; ni thybiodd y Cyfarfod Misol ei fod yn ddim amgen nag aelod cyffredin.[3] Yn y lle olaf a enwyd (Aberdâr), cyfarfyddodd â chyfeillion caredig a hynaws—cyfeillion yn gallu cydymdeimlo âg ef; a thrwy ychydig ddylanwad â'r Cyfarfod Misol, dechreuwyd hwylio ei gamrau, nes o'r diwedd y derbyniodd ganiatâd i bregethu yn rheolaidd, a
- ↑ Llythyr Mr. E. Roberts.
- ↑ Anerchiad yn Caeathraw, o'r adroddiad yn y Genedl Gymreig. Y mae yr ymadroddion sydd wedi eu gadael allan wedi eu cofnodi o'r blaen.
- ↑ Cawsom y cofnod canlynol o Gyfarfod Misol Liverpool oddiwrth Mr. J. Griffiths, Egremont. "Fraser Street, Hydref 6, 1858:—Crybwyllwyd fod Mr. J. Roberts (diweddar Olygydd yr Amserau) yn myned i fyw i Aberdâr, a'i fod ef yn dymuno cael papyr oddiyma yn hysbysu y tir y mae yn sefyll arno—Penderfynwyd, Fod Mri. Rees a Hughes i ysgrifenu at y cyfeillion yn Aberdâr yn ol cais Mr. Roberts."