Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

Cynnaliwyd Cymanfa o ganu cynnulleidfäol yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859, dan arweiniad Mr. Roberts, ac efe ei hun oedd wedi dethol y Tonau a'r Emynau. Yr oedd y Llyfr Tonau heb ddyfod allan eto, ond yr oedd mor bell ymlaen fel y gallai Mr. Roberts gael y gerddoriaeth yn gystal a'r geiriau ar y programmes, ac yn rhoddi mantais iddo yntau roddi prawf ar gynnwys y llyfr. Gwneid y cantorion i fyny o gorau Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg, a bydd genym sylw arni mewn lle arall. A dygwyddiad hapus oedd ei ddyfodiad i Aberdâr yr adeg hon; disgynodd i blith cyfeillion mynwesol, a allent gydymdeimlo âg ef, a cherddorion oeddynt yn ddigon addfed i gymeryd i fyny ei ysbryd, fel y cafodd yn nghapel Bethania gryn fantais i roddi prawf ar ei ideal ef o ganu cynnulleidfäol. "Yr ydym yn ei gofio yn dda yn arwain y canu yn yr ysgol gân yn y capel uchod, ac yn gosod i lawr yno yr hadau a dyfasant wedi hyny yn brenau ffrwythlawn trwy Gymru i gyd. Yno yr oedd y diweddar Mr. Joseph Hughes (Joseph y saer), un o'r dechreuwyr canu goreu, mwyaf gofalus, sicr a soniarus a glywsom erioed, yn pitchio y tonau. Mr. Daniel Griffiths, un o'r cerddorion mwyaf ymarferol a choethedig a fedd y wlad; a'r prif ddysgyblwr a chynghorwr, y pryd hwnw ac yw eto, yn y lle ar bynciau yn dwyn cysylltiad â cherddoriaeth y cysegr. Mr. William Morgan—(William), neu y Bardd, fel yr arferai Mr. Roberts ei alw. William fyddai, ac sydd eto yn darllen a deongli y pennillion; ac yr oedd mor gelfydd, ac eto mor naturiol gyda y gwaith hwn, fel yr ymhyfrydai Ieuan ei glywed bob amser yn gwneyd hyn, yn hytrach na'u darllen ei hunan. Tua'r amser hyn hefyd y daeth Mr. D. Rosser, un o'r lleiswyr mwyaf melfedaidd, i'r lle o Dowlais, fel y syrthiodd yr arweinyddiaeth gyhoeddus yn y man i'w ddwylaw ef. Mr. Edward