oliaeth, na chawsit byth ond hyny y fath sarhâd, hyd nes y teflais fy llygaid tua Chyfandir Ewrop; yno gwelaf, er fy ngalar, ei bod yn rhy gynnar eto. Drachefn, a welwch chwi yr adyn draw? hawdd darllen yn y fflamiau acw sydd yn ymlachio allan drwy ei lygaid, fod ei galon yn berwi gan ddigofaint yn erbyn un o'i gyd-ddynion; mae yn rhuo yn gyffelyb i grombil Vesuvius, gan fygwth ymdori yn ddylif o ymddial arno; ond dacw Gerddoriaeth yn dyfod ymlaen, a thrwy beiriannau cywrain y llais, neu dànau tyner y delyn, neu ryw offeryn arall, wele hi yn dyhidlo ei gwin neithdaraidd i'w fynwes losgedig, ac yn tywallt allan ei galon mewn ffrydiau grisialaidd o ddagrau. Lle a balla i ni fyned ymhellach ar hyd y maes hwn yn bresennol; fe allai y cawn hamdden yn ol llaw. Rhwydd hynt i chwi nes y cyfarfyddom eto ar yr 'Aelwyd.'—IEUAN GWYLLT."
Dyma keynote ardderchog i oes o lafur cerddorol, onidê? Nid yr egwyddorwas sydd yma yn "treio ei law" yn grynedig, ond y meistr yn ymaflyd yn ei waith, ac yn teimlo fod ganddo ddigon o adnoddau wrth gefn i'w gario drwyddo. Cynnwysai pob rhifyn ddwy ran—y letter—press a'r Gerddoriaeth—y letter—press, o ddau i bedwar tu dalen ymhob rhifyn, a gynnwysai "ymddyddan" ar egwyddorion cerddoriaeth, dan y teitl "Yr Aelwyd," ymha rai yr ymdrinir â'r "Erwydd, Yr Allweddau, Gwahanol Leisiau, Gorlinellau, Gwahanol Seiniau, Athroniaeth Sain, Gwersi ar Leisio, Ymarferion mewn Lleisio, Effaith gwahanol Seiniau, Cyweirnodau, ac Amser." Y mae yr ymdriniaeth ar y materion hyn yn ddyddorol, er hyny yn athronyddol ac eglur iawn. Un dernyn arall geir ynddo, sef cyfieithiad o Dr. Mainzer's Music and Education, ar ddylanwad cerddoriaeth. Yn y rhanau cerddorol ceir darnau anghyffredin o chwaethus cyfaddas i ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Y mae yma rai tonau cynnulleidfäol ag yr ydym yn eu cyfarfod drachefn yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol, ond