Tudalen:Ifor Owen.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ifor, gwrando ! Y mae pawb sy'n elyn i ti yn ddwbl elyn i mi, a dylet fod yn deall hynny; ond 'rwyt yn colli amser gwerthfawr wrth oedi yn y fan yna, pan yn fwy na thebyg fod Breddyn Kemys hyd yn oed y funud hon ar dy sodlau, a phrawfion yn ei feddiant dy fod yn fradwr i'th Frenin, a gwên ar ei wyneb yn y rhagolwg o'th weld yn cael dy sicrhau gan ei filwyr, a'th daflu i garchar am dy oes."

Ar hyn, torrodd yr eneth ddewr allan i wylo'n hidl, ac am yr ail dro bu bron i'r milwr golli ei gydbwysedd a syrthio dros ymyl y bâd i'r dwfr. Hyd yma yr oedd y ddau gariad wedi hollol anwybyddu y badwyr gan mor llwyr yr anghofient bopeth yn eu sylweddoliad o'r perygl a'i gwynebent, ond daeth llais y badwr hynaf yn cyfarwyddo yr ieuengaf pa fodd i ddefnyddio ei rwyf i gadw'r bâd yn ei le âg adgof o'u presenoldeb i feddwl yr. eneth, a gofynnodd mewn llais dychrynedig,—

"Beth am dy gymdeithion, Ifor, fedri di ymddiried iddynt?"

Trodd y milwr at yr hynaf, a gofynnodd iddo ei hateb.

"Y mae gan ein meistr heno ddau ganlynwr,—dau gyfaill gostyngedig, sydd yn barod unrhyw awr, neu funud, i roddi eu bywydau i lawr drosto gyda phleser, Meistres Kyffyn," oedd yr atobiad.

"Gyda phleser, a thros Meistres Delyth Kyffyn hefyd," ategai yr ieuengaf mewn llais dwfn.

"Duw a'ch bendithio, ddynion dewr," atebai'r eneth. "Ond Ifor, 'rwyf yn anghofio yr hyn a ddylaswn fod wedi ddweyd wrthyt ar y dechreu. Mae fy nhad yn gwybod am dy fwriad i ymuno â'r Piwritaniaid, ac y mae yn gwybod am fwriad Wil a thithau i ddod yma nos yfory. Ac er na chlywais ddim yn cael ei ddweyd i'r cyfeiriad hwnnw, os wyf yn adnabod fy nghyffesydd a fy nhad, bwriadant eich cymeryd yn garcharorion fel bradwyr i'r Brenin."

"Wyt ti yn berffaith sicr o hyn?"

"Mor sicr a dy fod di yn sefyll yn y cwch yna. Clywais, yn anfwriadol, yr holl ymddiddan gymerodd le rhyngddynt."

"Y nefoedd fawr! Feallai y gwyddant am y cyfarfyddiad hwn!"

"Na wyddant, neu o leiaf ni chlywais un math o awgrym am geisio dy ddal cyn nos yfory. Ond rhag ofn y gwyddant,