Tudalen:Ifor Owen.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan fod gennyt ddau gyfaill dewr, a chan dy fod yn arfog, dos ar dy union o'r fan hon i Gaerwrangon.[1] Ti wyddost ple i gael ceffylau i'th gymeryd mewn ychydig oriau o afael Breddyn a'i gynffonwyr. Cymer un o'th gyfeillion i'th ganlyn, a gyrr y llall adref i hysbysu dy dad, ac i geisio yr hyn sydd arnat eisieu i'th daith, a'th waith."

"Mae Meistres Delyth yn llefaru geiriau doethineb," meddai'r hynaf o'r cymdeithion. "Rhynged bodd i'm meistr i weithredu ar ei chyngor. Cymered Ieuan i'w ganlyn. Dychwelaf innau i Gaerlleon[2], ac i Glan y Don, ac os Duw a'i mynn, byddaf yng Nghaerwrangon bron mor fuan ag yntau."

Wedi ychydig o ddistawrwydd, edrychodd Ifor i wyneb pryderus ei anwylyd, ochneidiodd, a dywedodd mewn llais llawn o deimlad,—

"Delyth anwyl, ai dyma'r ffordd y rhaid i ni ymadael â'n gilydd wedi'r cyfan,—'madael heb gael hyd yn oed gafael yn dy law? Mor ddisglaer a mwynhaol y ddoe! Mor dywyll a bygythiol yfory. Ond dyna, maddeu yr arwyddion hyn o wendid. Os danghosaf ddim llai na'r dewrder uchaf yng ngwyneb y fath anhunanoldeb a'r fath ysbrydiaeth, byddaf yn anheilwng i yngan dy enw. Felly, er creuloned y ffawd sydd yn ein gwahanu, dilynaf dy gyngor, ac os caf Dduw yn rhwydd, bydd hanner can milltir rhyngof a Chasnewydd cyn cyfyd yr haul.

"Bydded y Duw sydd wedi ein harwain a gwylio drosom hyd yma gyda ni ein dau nes y cyfarfyddom y tro nesaf."

"Amen. A chofia ysgrifennu, Ifor anwyl, mor fuan ag y cei gyfle."

Cyn iddo gael amser i ateb, sibrydodd Ieuan y badwr yn ei glust ei fod yn gweld rhywbeth yn symud ar ben y bont; yr un eiliad tynnodd Delyth Kyffyn ei phen i fewn o'r ffenestr, fel pe bai hithai wedi gweld, neu glywed rhywbeth yn ei hystafell yn dynodi perygl. Yr oedd y noson ryw fymryn yn oleuach erbyn hyn na phan y daeth y cwch i fyny'r afon, ac wrth syllu'n sefydlog i'r fan y cyfeiriai Ieuan, gallai Ifor ganfod amlinellau pen ac ysgwyddau dyn yn gwylio eu symudiadau. Gorchmynnodd yn ddistaw i'r rhwyfwyr ddychwelyd mor fuan ag y gallent. Cyn gynted

ag y daethant i ganol rhyd yr afon, taniodd y gwyliwr ar y bont

  1. Worcester.
  2. Caerleon, nid Caerlleon (Chester).