ei lawddryll yn union i gyfeiriad pen Ifor; gwelodd ef yn codi ar ei draed, yn dweyd rhywbeth wrth ei gymdeithion, ac yna yn syrthio i'r dwfr fel darn o bren.
Gwenodd y llofrudd yn foddhaus. Rhoddodd ei lawddryll yn hamddenol yn ei logell, trodd i edrych os oedd rhywun ar y bont, neu gorllaw, ac wedi gweld ei fod yn hollol ar ei ben ei hun, cerddodd yn gyflym at Borth Gorllewinol y dref, yr hwn a ddigwyddai fod yn agored. Yna rhedodd fel ewig i fyny i gyfeiriad Sant Gwynlliw, a diflannodd yn y coed tu cefn i'r eglwys heb i neb ei weld.
Yn y cyfamser, yr oedd Ifor a'i gymdeithion wedi glanio ar
ochr ddwyreiniol yr afon wrth ben arall y bont, ac yn chwilio
pob congl am y llofrudd. Diangodd Ifor yn ddianaf trwy iddo
wneyd ei feddwl i fyny mewn eiliad pa fodd i ymddwyn pan
ddeallodd ei fod yn cael ei wylio, a gwnaeth ei fwriad yn hysbys
i'w ddau gyfaill mewn dwy neu dair o frawddegau byrion. Ni
thynnodd ef na hwythau eu llygaid oddiar ben ac ysgwyddau y
gwyliwr pan oedd y bâd yn gwneyd am ganol yr afon, felly,
pan welsant y ffagl yn gadael y llawddryll, plygodd y tri eu
pennau i'r bâd mewn amrantiad, ac aeth y fwled heibio heb
gyffwrdd yr un ohonynt; ond yr oeddent am i'r llofrudd gredu
ei fod wedi llwyddo yn ei amcan, a dyna ystyr y syrthio dros
y bad i'r afon. Llwyddasant yn berffaith yn eu hamcan.
Aeth y saethwr ymaith yn hollol foddhaol ei fod o'r diwedd
wedi ysgubo ymaith yr unig berson a gashai â chasineb
anfarwol.