hanes y swyddog, yr oedd cyn hyn wedi gwneyd tri neu bedwar cynnyg am ei fywyd. Cymerodd y llw, ac addawodd hefyd i'w waredydd y gwnai arwain bywyd gwell yn y dyfodol. Oherwydd rhyw rwystrau ynglŷn â chyfnewid y carcharorion, arhosodd Syr Ifor ddau neu dri niwrnod yng ngwersyll Rupert, a chafodd dri neu bedwar cyfleusdra i ymddiddan â'r Tywysog yn bersonol. Fore'r trydydd dydd, yr oedd ef a'i gyfaill, yr hwn a farchogai geffyl a gyfrifid y cyfrwysaf yn y ddwy fyddin, yn dychwelyd yn eu hol. Yr oeddent wedi marchogaeth o olwg y babell olaf pan y clywsant swn ergyd llawddryll. Y funud nesaf, syrthiodd Syr Ifor oddiar ei geffyl, a throdd ei gyfaill o'r ffordd mewn pryd i osgoi ail ergyd, a anaelwyd o'r un ymguddfan ato ef ei hun. Mewn eiliad yr oedd y ceffyl cyfrwys dan ei gyfarwyddyd wedi llamu dros y clawdd, ae wedi gafael yng ngwarr y llofrudd, a'i ysgwyd i'r fath raddau, nes rhwng y dychryn a'i meddiannodd, a ffyrnigrwydd yr anifail a'i farchog, ysgydwyd pob arwydd o fywyd allan o'i gorff. A phwy feddyliet ydoedd?"
"Y llofrudd? Breddyn Kemys! Ond beth ddaeth o Ifor?' "Trwy drugaredd, nid oedd ei glwyf yn farwol, er i'w ymosodydd fwriadu hynny. Wedi boddhau ei feddwl ar y pen hwn, a thrin y clwyf, rhwymodd ei gyfaill ei ymosodydd draed a dwylaw taflodd ef yn groes i'w geffyl; a chan fod Syr Ifor yn alluog, gyda chynhorthwy, i farchogaeth, aethant yn ol i'r gwersyll. Cyn iddynt gyrraedd pabell y Tywysog, dadebrodd y llofrudd, ac ymwingodd rywfodd nes y syrthiodd i'r llawr. Erbyn hyn yr oedd y swyddogion oedd ym mhabell fawr Rupert oll allan, a chyn i neb gael amser i ofyn am eglurhad, gafaelodd y ceffyl cyfrwys yng ngwarr yr adyn dirmygus, a chan sefyll i fyny ar ei draed ôl, ysgydwodd ef o flaen y Tywysog a'i osgorddlu fel yr ysgydwa ci lygoden fawr, a rhoddodd cyfaill Syr Ifor ddesgrifiad cyflawn o'r hyn gymerodd le. Yr oedd Rupert mor ddigllon fel y gorchmynodd roddi'r adyn mewn heiyrn ar unwaith; a gwnaeth i'w feddyg ei hun drin clwyf Syr Ifor. Ymhen deuddydd, dychwelodd y cyfaill i wersyll Cromwel a llythyr oddiwrth Rupert yn egluro beth a ddigwyddasai i'w swyddog, gan ddatgan ei ofid, a rhoddi addewid y caffai ddychwelyd mor fuan ag y byddai yn alluog. Mae'n debyg er hynny fod y clwyf yn un mwy peryglus nag yr ymddanghosai, ac iddo fynd i dwymyn