fel Laud, a Williams, a Milton, a Hollis, yr oedd yn cael y gore ar yr hen ŵr ym mhob dadl, gyda'r canlyniad ei fod weithiau yn colli ei dymher, ac yn bygwth hysbysu awdurdodau yr Eglwys am ei heresi. Ond gymaint oedd ei dylanwad ar ei fywyd, fel y chwarddai ei fygythion trymaf yn anghof cyn pen ychydig o funudau ar ol iddo'u cyhoeddi.
Yr oedd mwyafrif mawr pobl Gwent, ac o ran hynny mwyafrif mawr y Cymry, yn Babyddion yn y dyddiau hynny. Ond nid oedd ond ychydig iawn ohonynt a wyddent beth oedd Pabyddiaeth, am na fedrent ddarllen nac ysgrifennu. Yr oeddent bron yn ddieithriad hefyd o blaid y Brenin ac yn erbyn y Seneddwyr. Rhoddodd miloedd ohonynt eu bywydau i lawr dros Siarl a'i achos, heb braidd ofyn beth oedd hanes a diben y rhyfel yn yr hwn yr ymladdent.
Nid edrychid ar Gastell Casnewydd fel Castell, ac ni ddefnyddid ef i ateb dibenion Castell ers llawer o amser bellach. Yr un pryd, ni fu heb breswylydd o nôd a dylanwad er pan y cymerwyd e gan Harri'r Wythfed. Perchenogid ef adeg ein hystori gan; enwog Arglwydd Herbert, Sant Gilian. Ond ni fu ef na neb ddisgynyddion yn byw ynddo erioed.
Yn ei deithiau o gwmpas y byd, ymwelodd Arglwydd Herber. ddwywaith âg Yspaen, a bu Morgan Kyffyn o wasanaeth arbennig iddo adeg ei ddau ymweliad. Oherwydd y gwasanaeth hwnnw, gwnaeth ei noddwr y cyn-fasnachwr a hanner milwr yn Gwnstabl Castell Casnewydd ymhen ychydig wedi ei ddychweliad i'w wlad enedigol. A dyna lle y bu ef a'i ferch yn byw hyd ddechreuad yr hanes hwn. Er i'r hen Gastell ddioddef llawer ymosodiad ffyrnig, o adeg Glyndwr hyd adeg Harri'r Wythfed, ac er i bob ymosodiad anurddo a malurio rhai o'i dyrrau, a llawer o'r muriau allanol, yr oedd ynddo nifer fawr o ystafelloedd eang, i fyny ac i lawr, heb eu cyffwrdd gan yr un ymosodwr, na'u cyfnewid, ond er gwell, —gan gwrs amser. Yr oedd y Cwnstabl felly yn preswylio yn un o gartrefi helaethaf ac amlycaf gwlad Gwent. A chredai ei ferch nad oedd prydferthach golygfeydd i'w canfod o ffenestri'r un preswylfod yn y byd na'r rhai y syllai hi arnynt mor aml o ben muriau'r hen gaerfa ar lan yr Wysg.
Cadwai yr Arglwydd Herbert un ystafell hardd yn y Castell at wasanaeth awdurdodau llywodraethol y sir. Gwnai y rhai