hyn hi yn fan cyfarfod i drin materion cyhoeddus o bryd i bryd, ac edrychent arni fel yr edrych eu disgynyddion yn ein dyddiau ni ar y clwb sir. Nid oedd fawr o ddyddiau yn mynd heibio nad oedd rhywrai o gynrychiolwyr prif deuluoedd Gwent yn troi i mewn i edrych am lythyrau, neu i gyfarfod â phersonau gyda'r rhai yr oedd ganddynt ryw fater cyhoeddus neu gilydd i'w drin a'i benderfynu. Yr oedd y neuadd yn gyrchfan boneddigesau yn ogystal a boneddigion, ac ambell adeg mynychid hi gan nifer liosocach o'r rhyw deg nag o'r llall. Trwy gyfrwng y neuadd hon doi y Cwnstabl a'i ferch i gyffyrddiad personol â bron pob un o bwys yn y sir, a gwyddent yn well na nemawr neb yn y wlad hanes symudiadau'r dydd ym mhob cyfeiriad.
Oddiar ddechreuad y cweryl rhwng Siarl a'r Senedd, mynychid y neuadd bron yn feunyddiol gan bersonau cyfrifol o bob congl o'r sir. Ambell waith byddai yno ddadlu brwd ynghylch hawliau y Brenin ac iawnderau y Senedd. Fel rheol, nid oedd ond rhyw un neu ddau a feiddiai ddweyd gair, hyd yn oed er mwyn dadl, o blaid y Senedd. Ond pan ddigwyddai yr Arglwydd Herbert fod yn bresennol, cymerai arno yn aml i feirniadu ymddygiadau Laud, a Strafford, a'r Brenin; a gwnai hyn. weithiau mewn iaith mor finiog fel y credai llawer ar y pryd mai Seneddwr oedd. Yn y dadleuon hyn, byddai Delyth Kyffyn yn aml yn cymeryd rhan, ac yr oedd ei chydymdeimlad mor amlwg gyda'r Senedd fel yr edrychai rhai arni mewn syndod a dychryn, yn enwedig ei thad. Ond nid felly Arglwydd Herbert, yr hwn, er yn Frenhinwr pybyr, oedd, nid yn unig yn abl i weld ffaeleddau yn Siarl a'i gynghorwyr, ond a brofodd ei hun yn ddigon gwrol i ddweyd hynny wrthynt fwy nag unwaith; yn enwedig ar yr adeg pan y mynnai'r Brenin lwgrwobrwyo y fyddin Ysgotaidd yn Efrog.
Heblaw Arglwydd Herbert a Delyth Kyffyn, cymerid plaid y Senedd yn awr ac yn y man gan foneddwr ieuanc oedd wedi dyfod i breswylio yn ddiweddar gyda'i dad i hen blasdy Glan y Don, yn ymyl pont Caerlleon. Er nad oedd Ifor Owain ond newydd-ddyfodiad ymysg boneddigion Gwent, daeth yn adnabyddus drwy holl Fynwy bron ar unwaith. O ran person yr oedd yn gawr, ac yr oedd rhyw urddasolrwydd aneffiniol o'i gwmpas fyddai'n hawlio parch ac edmygedd pawb ddoi i gyffyrddiad ag ef. Ar yr un pryd, perai ei lygaid gleision, a'i