a gwledd. 'Roedd yn ganwr hwylus, yn chwareuwr medrus ar y crwth, ac yn ddawnsiwr braidd heb ei ail yn yr holl gymdogaeth. Wel, yr oedd ganddo gyfaill cyfoethog yn y plwyf yma, yr hwn fu yn cyfreitha â rhyw un am ysbaid hir yn Llundain, ac wedi ennill y dydd ar ei wrthwynebydd. Pan glywodd y ddedfryd, anfonodd neges adref i ddweyd fel yr oedd popeth wedi troi o'i blaid, ac i ofyn am i'w deulu wahodd ei gyfeillion a'i gymdogion i'w dy erbyn noson ei ddychweliad i gyd-lawenhau ag ef. Daeth tyrfa ynghyd, ac yn eu mysg, Meistr Wroth, yr hwn a brynasai grwth newydd ar gyfer yr adeg. Pan oedd y rhialtwch wedi cyrraedd ei bwynt uchaf, a'i gyfeillion yn disgwyl y scwier ieuanc i fewn bob munud, daeth brysnegesydd ar garlam at y tŷ â'r newydd galarus fod yr hwn a ddisgwylient wedi marw'n sydyn ar ei ffordd adref. Effeithiodd y newydd yn drwm ar y cwmni i gyd, ond yn fwy, mae'n debyg, ar Meistr Wroth na neb. Torrodd allan i wylo fel plentyn, a syrthiodd ar ei liniau ynghanol y bobl ddychrynedig i ofyn am i Dduw faddeu ei bechodau. O'r awr honno allan daeth yn ddyn newydd. Holl amcan ei fywyd. bellach oedd achub pechaduriaid. A threuliodd yr holl flynyddau, o'r noson ryfedd honno hyd yn awr, i geisio dwyn dynion at Iesu Grist. Ac am ei fod wedi mynd tu allan i'w blwyf ei hun. chwilio am danynt, ac wedi pregethu iddynt, fel ei gyfaill Ficer Prichard, o Lanymddyfri, mown pob math o leoedd, diarddelwyd ef gan yr awdurdodau, ac amddifadwyd ef o'i fywoliaeth. Ond penderfynodd y bobl a achubwyd trwy ei bregethu na chai gŵr Duw weld eisieu dim, na'i wahanu mewn un modd oddiwrth y praidd a gasglodd ynghyd, ac a fugeiliodd mor ffyddlon."
"Ydych chwi'n mynd i herio'r awdurdodau, a'i gadw'n ficer y plwyf er eu gwaethaf?"
"Na, nid dyna'n cynllun. Yr ydym wedi gadael eglwys y Llan, rai degau o honom, a than arweiniad Meistr Wroth ac ereill yr ydym yn ffurfio ein hunain yn eglwys heddyw. Nis gwyddom. eto ym mha le yr addolwn, ond yr ydym wedi cytuno i ethol Meistr Wroth yn weinidog i'r eglwys newydd."
"Ym mha le yr ymgynullwch?"
"Mewn pabell ar y maes tua milltir yn uwch i fyny yng nghyfeiriad Casgwent."[1]
- ↑ Chepstow.