dorf, gydag ymddanghosiad sydyn henafgwr parchus ymhen draw'r babell. Yr oedd yn hawdd deall oddiwrth y gipdrem gyntaf ar ei berson ei fod yn ddyn o nôd. Gyda'i ben mawr crwn, ei dalcen uchel, ei lygaid treiddiol, ei gorff teneu, lluniaidd, ei farf wen, hirllaes, ac yn enwedig ei bresenoldeb urddasol. pan yn gwynebu torf,—gellid gweld ar unwaith fod William. Wroth,—canys efe oedd y gŵr,—wedi ei fwriadu i fod yn apostol.
Dyna'r syniad ffurfiodd Delyth Kyffyn am dano ar ol munud. neu ddwy o sylwi. Nid oedd dim yn ei wisg na'i ymddanghosiad yn peri iddi ei gymharu a'i gyferbynu am foment â'r offeiriad Pabaidd oedd yn adnabyddus iddi, ac eto gwelaj ynddo ei delfryd uchaf o broffwyd Duw, ac o apostol Iesu Grist.
Pan ddechreuodd lefaru, teimlai ei hun yn nesu ato bron yn anymwybodol. Yr oedd ei genadwri mor newydd fel na fynnai golli gair. Ymhen ychydig, eglura beth yw eglwys, hanfodion. eglwys, natur eglwys, amcan eglwys. Dengys pa fodd y mae ei syniad ef yn sylfaenedig ar yr Ysgrythyr, ar eiriau Crist, ac ar ddysgeidiaeth yr Apostolion. Rhydd hanes eglwysi y Testament Newydd. Cyferbynia symledd a phrydferthwch y syniad hwn. o'i eiddo ef â'r syniad oedd yn cyfrif am Eglwys Sefydledig ei vlad ei hun, ynghydag Eglwysi Groeg a Rhufain. Ystyr eglwys, n ol Wroth, oedd,—"Cynulliad o Gristionogion yn uno â'u ilydd mewn un lle i addoli Duw." Wrth egluro ei hawl ef a'i ganlynwyr i ffurfio eu hunain yn eglwys, ni ddywedai yr un gair bychan am yr awdurdodau Eglwysig a'i taflodd ar yr heol yn ei henaint a'i benwyndod, ac ni wnai un cyfeiriad chwerw at y sefydliad oedd efe wedi cefnu arno. Enillodd ei ysbryd mwyn a maddeugar ugeiniau o galonnau yn y dorf, a chymaint oedd dylanwad ei bregeth fel na theimlai yr eglwyswr mwyaf selog, na'r Pabydd mwyaf penboeth yn bresennol, yr awydd lleiaf i'w wrthwynebu, hyd yn oed pan oedd yn dweyd pethau a elent dan wraidd eu holl broffes.
Wedi i'r apostol parchus eistedd, cymerwyd ei le gan ŵr ieuanc o ymddanghosiad a chymeriad hollol wahanol. Clywodd Delyth y bobl yn ei hymyl yn dweyd mai Walter Cradoc oedd, a bod Esgob Llandaf yn ei gashau gymaint fel y galwodd ef yn " ddyn. ieuanc beiddgar ac anwybodus." Gallai Delyth weld ar unwaith ei fod yn feíddgar. Llefarai am bechod a phechaduriaid yr oes