Tudalen:Ifor Owen.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r gymdogaeth gyda'r hyfdra mwyaf. Condemniai eu harferion. drygionus yn y modd mwyaf diarbed. A desgrifiai ymddygiadau anheilwng rhai ohonynt mewn iaith mor finiog, nes oedd ei eiriau yn gwynio eu cydwybodau fel halen ar gig noeth. Gwelai Delyth lawer o'r coegwyr ieuainc o'i hamgylch yn gwingo dan y mangelliadau, a chlywai hwy yn bygwth "torri pen" y pregethwr, a'i orfodi i fwyta ei eiriau; a chyn pen hir gwelai rai ohonynt yn taflu wyau drewedig ato, ac ereill yn gyrru eu cŵn i gyfarth er ceisio ei ddistewi. Ond nid oedd y pregethwr ieuanc yn gofalu fawr am yr wyau, na'r cŵn, na'r geiriau câs; os dim, pregethai yn fwy cofn, a chondemniai yn fwy llym po fwyaf o wrthwynebiad gaffai.

Yn sydyn, gwelodd Delyth rywbeth wnaeth i'w chalon sefyll, a'i gwyneb welwi fel un ar ddarfod am dani! Yn ei hymyl yr oedd nifer o ddynion ieuaine perthynol i'r dosbarth a elwid yn "foneddigion y sir." Creaduriaid balch, stwrllyd ac anystyriol, oedd y rhan fwyaf ohonynt, wedi dyfod yno i gael difyrrwch, ac yn gofalu dim mwy am grefydd na'r cŵn a'u canlynent. Ag eithrio un o'u nifer, ymddanghosent yn weddol ddiddrwg a difalais. Ond yr oedd yr eithriad wedi dyfod yno gydag amcan melldigedig, ac yr oedd yn benderfynol o'i gyflawni. Pan oedd. Meistr Cradoc yn cynhesu at ei waith o gondemnio pechodau poblogaidd yr oes, yr oedd mynegiant gwyneb y gŵr ieuanc hwn. yn ofnadwy. Clywodd Delyth ef fwy nag unwaith yn ceisio darbwyllo ei gyfeillion i wneyd rhywbeth nad oeddent yn barod i'w gyflawni. Rhegai, cablai, a gwawdiai yn barhaus. O'r diwedd, tynnodd lawddryll o'i logell, a dywedodd yn fygythiol. wrth y cwmni,—

"Os bydd un o honoch yn amharod i ruthro pan roddaf yr amnaid nesaf, caiff hwn ei anelu ato ef, yn lle at y diafol acw!

Gwelodd Delyth ei fod wedi cynllunio i ruthro'r llwyfan, ac yn y cynhwrf a'r rhuthr, i anafu, os nad lladd, y pregethwr ieuanc. Yn ei braw, trodd at y fan lle safai y dyn ieuanc arall oedd wedi tynnu ei sylw,—y dyn ieuanc ddaeth yno yng nghwmni ei dad oedrannus, ac heb gymeryd hanner eiliad i ailfeddwl, cafodd ei hun yn rhoi ei llaw ar ei fraich, ac yn edrych ym myw ei lygaid; ac wedi boddloni ei hun ei fod yn un i ymddiried ynddo, ac i droi ato am gynhorthwy effeithiol mewn adeg gyfyng, hysbysodd ef